Ysgol Gymraeg yw Ysgol Bro Cinmeirch sydd wedi ei leoli yn Llanrhaeadr yng Nghinmeirch. Rydym am i'n gwefan roi gwybodaeth am yr ysgol i rieni'r plant sydd yma'n barod ac i rieni sy'n ceisio penderfynu ar ysgol i'w plant. Rydym yn awyddus i greu awyrgylch ddiogel, hapus a chyfeillgar ac ysgol lle mae plant yn mwynhau dod iddi. Ein gobaith yw cyflwyno'r addysg orau a phrofiadau gwerthfawr i'r plant er mwyn iddynt ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i dyfu'n aelodau cyfrifol ac annibynnol o'u cymdeithas. Rydym yn ceisio cynnal perthynas agos, brwdfrydig rhwng staff, rhieni a'n llywodraethwyr er mwyn sicrhau fod pob plentyn yn cael y cyfle gorau posib yn ein gofal. Rydym yn creu cyfleoedd a phrofiadau gyda'n gilydd yn y gymuned.Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn adnabod pob plentyn a'u teuluoedd ac yn cynnig Cwricwlwm cynhwysol gyda chyfleoedd amrywiol o fewn y meysydd dysgu.Os oes unrhyw gwestiynau pellach, cofiwch gysylltu â ni.Mrs Ffion Higgins (Pennaeth)Mrs Karen Davies (Swyddog Gweinyddol)Anti Carys (Cogyddes)